[accordion openfirst=”true” clicktoclose=”true” scroll=”false”]
[accordion-item title=”Trosolwg” id=”Overview” state=”open”]
Mewn amgylchedd proffesiynol newidiol, mae arweinyddiaeth gre yn hanfodol i wynebu heriau gofal iechyd, ac i drosglwyddo gwelliant ar wasanaethau.
Mae WCPPE yn cydweithio gyda’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol i ddarparu’r rhaglen Arweinyddiaeth Uwch, sydd wedi’i gynllunio i gysylltu ymarferwyr blaengar o bob cwr o’r system gofal iechyd, i wella ei sgiliau arweinyddiaeth
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Manteision” id=”Benefits” state=”closed”]
Gwella’r gallu i arwain newid, a gyrru gwelliannau i wasanaethau a gofal y claf
- Datblygu dealltwriaeth o dirwedd strategol a gwleidyddol cyfredol GIG
- Datblygu mewnwelediadau a datrysiadau i heriau personol
- Mynediad i hyfforddiant gweithredol
- Dysgu ochr yn ochr â chyfoedion, ac adeiladu rhwydwaith dros sectorau gwahanol
- Defnyddio dysgu gweithredu i wella’r potensial arweinyddiaeth ynddo chi, ac eraill
- Datblygu prosiect byw, yn berthnasol i ganlyniadau’r claf a datblygiad gwasanaeth
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Cymhwysedd” id=”eligibility” state=”closed”]
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithio ar lefel ymarfer uwch i ddylanwadu ar gyfeiriad strategol, a datblygu gwasanaethau o fewn, ac ar draws sefydliadau
- Cwblhau ffurflen gais ar-lein
- Ardystiad gan uwch aelod o’u sefydliad (oni bai eu bod yn gwneud hyn yn eu hamser eu hunain)
- Ymrwymiad i fynychu holl ddyddiadau’r rhaglen (tua 14 diwrnod dros gyfnod o 12 mis)
- Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu ar deilyngdod, a bydd llefydd yn cael eu gwobrwyo i ymgeiswyr sy’n gallu arddangos y potensial i effeithio mwyaf fel canlyniad i’w cyfranogiad.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Strwythur y cwrs” id=”coursestructure” state=”closed”]
Gwerthusiad 360°
Cwblhau gwerthusiad 360° Model Arweinyddiaeth Gofal Iechyd. Bydd cynrychiolwyr yn cwrdd â hwylusydd arbenigol i drafod y canlyniadau, a datblygu camau gweithredu.
Gweithdau cenedlaethol
Mynychu gweithdy rhagarweiniol, a dau weithdy pellach a fydd yn cynnwys sesiynau datblygu sgiliau rhyngweithiol, a chyflwyniadau gan ymarferwyr adnabyddus, a fydd yn archwilio’r dirwedd strategol i ofal iechyd yng Nghymru, a rôl gofal iechyd ynddi.
Dysgu gweithredu
Hyrwyddiad arbenigwyr trwy gyfres o wyth weithdy wedi’i cynnal dros ysbeidiau o 4-6 wythnos, wedi eu cynllunio i ddatblygu gallu arwain.
Hyfforddiant gweithredol
Mynychu pedwar sesiwn hyfforddi, wedi eu cynllunio i adeiladu ar gryfderau presennol a chynyddu cynhyrchiant, gwella’r cydbwysedd bywyd gwaith, a gwella’r ffocws a’r ymddygiadau y tu fewn i ddiwylliant y gweithle, yn ogystal â chefnogi datblygiad gyrfaol.
Datblygiad prosiect
Defnyddio sgiliau datrys problemau i ddatblygu prosiect byw, i gynhyrchu manteision pendant, yn berthnasol â chanlyniadau’r claf a datblygiad gwasanaeth.
Gweithgareddau ymarfer
Cynllunio poster i arddangos effaith a chanlyniadau’r prosiect byw.
[accordion-item title=”Asesiad” id=”assessment” state=”closed”]
Beirniadaeth Poster
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Gwnewch gais am gwrs” id=”apply” state=”closed”]
Os yw’r ffurflen gais ar gau neu ddim ar gael, gallwch gofrestru eich diddordeb yn y cwrs (au) yn y dyfodol drwyglicio yma.
- Dyddiadau newydd yn dod yn fuan!
[/accordion-item]
[/accordion]