Technegydd Fferyllfa Gwirio Achrededig
Mae’r rhaglen yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth ac achrediad i alluogi technegwyr fferylliaeth cofrestredig i gyflawni rôl technegydd fferyllfa gwirio achrededig yn gymwys a hyderusTechnegydd Fferylliaeth ym maes Rheoli Meddyginiaethau
Mae’r cwrs hwn yn darparu’r sgiliau, y wybodaeth a’r achrediad i alluogi technegydd fferylliaeth cofrestredig i ddatblygu ei rôl fel technegydd rheoli meddyginiaethau.
Bydd y cwrs yn datblygu’r sgiliau i hybu’r defnydd darbodus o feddyginiaethau o ran y claf yn ogystal â’r lleoliad gofal iechyd
Cyflwyniad i Addysg a Hyfforddiant
Erbyn hyn cydnabyddir bod addysgu, hyfforddi a goruchwylio cydweithwyr yn rhan naturiol o waith bob dydd fferyllwyr a thechnegwyr fferylliaeth. Mae’r rhaglen yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol, sgiliau ac agweddau ar addysg, hyfforddiant ac egwyddorion datblygu a’u rhoi ar waith er mwyn dysgu a thiwtora cydweithwyr yn effeithlon.
Arweinyddiaeth Uwch
Mewn amgylchedd proffesiynol newidiol, mae arweinyddiaeth gre yn hanfodol i wynebu heriau gofal iechyd, ac i drosglwyddo gwelliant ar wasanaethau. Mae WCPPE yn cydweithio gyda’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol i ddarparu’r rhaglen Arweinyddiaeth Uwch, sydd wedi’i gynllunio i gysylltu ymarferwyr blaengar o bob cwr o’r system gofal iechyd, i wella ei sgiliau arweinyddiaeth.
Cyflwyniad i Arweinyddiaeth Gofal Iechyd
Nod y rhaglen chwech mis yw rhoi cyflwyniad i arweinyddiaeth gofal iechyd a chryfhau sgiliau rheoli aelodau o’r proffesiwn fferylliaeth sydd yng nghyfnodau cynnar datblygiad eu gyrfa, neu sy’n dechrau eu taith arweinyddiaeth
Darparu Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus ym maes Fferylliaeth
Mae Iechyd Cyhoeddus yn faes datblygu ymarfer allweddol i’r proffesiwn fferylliaeth i wella canlyniadau i gleifion, ac mae gan bob aelod o’r tîm fferylliaeth ran bwysig i’w chwarae. Cynlluniwyd rhaglen Lefel 4 ar gyfer gweithwyr fferylliaeth proffesiynol sy’n awyddus i drefnu gweithgareddau iechyd cyhoeddus i gyfleu negeseuon am iechyd a llesiant i eraill. .
Ymarfer Fferylliaeth Broffesiynol Annibynnol
Pwrpas cyffredinol rheoleiddio gweithwyr proffesiynol yw diogelu cleifion a’r cyhoedd, drwy sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig wedi profi bod ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i ymarfer yn ddiogel, a’u bod yn atebol am eu hymarfer. Mae’r rhaglen hon yn darparu’r sgiliau, y wybodaeth a’r achrediad ffurfiol i wella ymarfer proffesiynol annibynnol i dechnegwyr fferylliaeth cofrestredig ar draws yr holl sectorau.
Sgiliau Ymgynghori i Dechnegwyr Fferylliaeth
Mae natur rolau technegwyr fferylliaeth yn dod yn fwy amrywiol, gyda lefelau cynyddol o gysylltu â’r cyhoedd yn gofyn am sgiliau ymgynghori effeithlon.
Cynlluniwyd y rhaglen Lefel 4 hon i ddarparu achrediad ffurfiol mewn sgiliau ymgynghori i wella hyder a chymhwysedd clinigol, ac i alluogi mabwysiadu ymarfer i arwain at well canlyniadau i gleifion.
Hyfforddiant Aseswr
Mae’r cwrs yn darparu sgiliau, gwybodaeth ac achrediad City & Guilds i fferyllwyr a thechnegwyr fferylliaeth i’w galluogi i ddatblygu eu rolau fel aseswyr yn seiliedig ar waith.
Bydd y cwrs yn cynorthwyo i ddatblygu’r sgiliau i alluogi fferyllwyr a thechnegwyr fferylliaeth i asesu’r dysgwyr sy’n cwblhau’r rhaglenni hyfforddiant sy’n seiliedig ar Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol.