[accordion openfirst=”true” clicktoclose=”true” scroll=”false”]
[accordion-item title=”Trosolwg” id=”Overview” state=”open”]
Erbyn hyn cydnabyddir bod addysgu, hyfforddi a goruchwylio cydweithwyr yn rhan naturiol o waith bob dydd fferyllwyr a thechnegwyr fferylliaeth. Mae’r rhaglen yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol, sgiliau ac agweddau ar addysg, hyfforddiant ac egwyddorion datblygu a’u rhoi ar waith er mwyn dysgu a thiwtora cydweithwyr yn effeithlon.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Manteision” id=”Benefits” state=”closed”]
- Pennu eich arddull dysgu ac addysgu chi eich hun
- Dod yn hyfforddwr/tiwtor clinigol effeithlon
- Cynllunio gweithgareddau dysgu effeithlon
- Darparu adborth amserol, cywir a chadarnhaol am ddatblygiad unigolion dan hyfforddiant
- Datblygu sgiliau hunanfyfyrdod
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Cymhwysedd” id=”eligibility” state=”closed”]
- Fferyllwyr a thechnegwyr fferylliaeth cofrestredig sy’n awyddus i ddatblygu eu rolau fel hyfforddwyr ac addysgwyr, yn enwedig y rhai sy’n goruchwylio neu’n addysgu unigolion dan hyfforddiant cyn-gofrestredig ac ôl-gofrestredig yn rheolaidd
- Rhaid i ymgeiswyr gael ardystiad gan uwch aelod o’u sefydliad oni bai eu bod yn gwneud hyn yn eu hamser eu hunain
- Ymrwymiad i fynychu dau ddiwrnod addysgu
- Llenwi ffurflen gais ar-lein
- Caiff lleoedd eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Paratoi ar gyfer y Cwrs” id=”precourse” state=”closed”]
Cyn mynychu’r gweithdy byw, mae’n rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r pecyn e-Ddysgu Helpu Eraill i Ddysgu a chwblhau dau holiadur.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Strwythur y cwrs” id=”coursestructure” state=”closed”]
Pecyn e-Ddysgu
Rhaid ei gwblhau cyn mynychu Diwrnod 1af y cwrs.
Cyrsiau Deuddydd
Mynychu gweithdai rhyngweithiol deuddydd llawn.
Gweithgareddau ymarfer
Cwblhad a chyflwyniad portffolio o dystiolaeth.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Asesiad” id=”assessment” state=”closed”]
Adolygu’r portffolio myfyriol gorffenedig.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Ymgeisio ar gyfer y cwrs (De Cymru)” id=”applysouth” state=”closed”]
: Byddwch cystal â chwblhau’r ffurflen gais isod er mwyn ymgeisio ar gyfer cwrs “Cyflwyniad i Addysg a Hyfforddiant” Dyddiadau’r cwrs yw:
Diwrnod 1: 1af Gorfennaf 2019
Diwrnod 2: 3ydd Hydref 2019
Gwesty Copthorne, Caerdydd
Os yw’r ffurflen gais wedi cau, neu heb fod ar gael, gallwch gofrestru diddordeb pellach trwy glicio isod.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Ymgeisio ar gyfer y cwrs (Gogledd Cymru)” id=”applynorth” state=”closed”]
Byddwch cystal â chwblhau’r ffurflen gais isod er mwyn ymgeisio ar gyfer cwrs “Cyflwyniad i Addysg a Hyfforddiant” Dyddiadau’r cwrs yw:
Diwrnod 1: 11eg Gorffennaf 2019
Diwrnod 2: 10fed Hydref 2019
Gwesty Oriel , St Asaph
Os yw’r ffurflen gais wedi cau, neu heb fod ar gael, gallwch gofrestru diddordeb pellach trwy glicio isod.
[/accordion-item]
[/accordion]