11th Rhagfyr 2019

Cyflwyniad i Arweinyddiaeth Gofal Iechyd

[accordion openfirst=”true” clicktoclose=”true” scroll=”false”]

[accordion-item title=”Trosolwg” id=”Overview” state=”open”]

Nod y rhaglen chwech mis yw rhoi cyflwyniad i arweinyddiaeth gofal iechyd a chryfhau sgiliau rheoli aelodau o’r proffesiwn fferylliaeth sydd yng nghyfnodau cynnar datblygiad eu gyrfa, neu sy’n dechrau eu taith arweinyddiaeth. Bydd y cyfranogwyr yn archwilio cryfderau ac ysgogiadau personol, ynghyd â’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu ac arwain timau o fewn sefydliadau.

Bydd y cyfranogwyr yn archwilio cryfderau ac ysgogiadau personol, ynghyd â’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu ac arwain timau o fewn sefydliadau.
[/accordion-item]

[accordion-item title=”Manteision” id=”Benefits” state=”closed”]

  • Datblygu priodweddau personol, er enghraifft hunanymwybyddiaeth, hyder a sgiliau myfyriol
  • Datblygu sgiliau rhyngbersonol a rheoli, gan gynnwys rheoli amser a dirprwyo, ysgogi a dylanwadu, rheoli prosiectau, pendantrwydd a deallusrwydd emosiynol, rheoli gwrthdaro a rheoli perfformiad.
  • Dysgu a rhwydweithio ymhlith cydweithwyr gofal iechyd fferylliaeth o’r un anian ar draws yr holl sectorau
    [/accordion-item]

[accordion-item title=”Cymhwysedd” id=”eligibility” state=”closed”]

  • Ardystiad gan uwch aelod o’u sefydliad (oni bai eu bod yn cwblhau’r cwrs yn eu hamser eu hunain)
  • Ymrwymiad i fynychu pob un o bedwar dyddiad y rhaglen
  • Cwblhau’r ffurflen gais ar-lein
  • Caiff lleoedd eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin
    [/accordion-item]

[accordion-item title=”Paratoi ar gyfer y Cwrs” id=”precourse” state=”closed”]
Cyn mynychu’r gweithdai rhyngweithiol byw, mae’n rhaid i’r dirprwyon gwblhau gweithgareddau cyn y cwrs ar gyfer Diwrnod 1 (a’r pedwar diwrnod dilynol, cyn pob diwrnod) a fydd yn hygyrch ar ôl cofrestru. Bydd y gwaith hwn yn rhan o’r portffolio myfyriol.
[/accordion-item]

[accordion-item title=”Strwythur y Cwrs” id=”coursestructure” state=”closed”]
Gwaith Cyn y Cwrs
Cwblhau’r tasgau cyn y cwrs a chyn y gweithdai byw.

Gweithdai rhyngweithiol byw
Mynychu pob un o’r pum gweithdy rhyngweithiol byw 1-diwrnod. Bydd pob gweithdy’n cynnwys gweithgareddau a chyflwyniadau gan weithwyr iechyd proffesiynol profiadol sy’n gysylltiedig ag addysg a datblygiad.

Gweithgareddau ymarfer
Cwblhau’r tasgau ar ôl y cwrs a’r portffolio tystiolaeth.
[/accordion-item]

[accordion-item title=”Asesiad” id=”assessment” state=”closed”]
Adolygu’r portffolio myfyriol gorffenedig.
[/accordion-item]

[accordion-item title=”Gwneud cais ar gyfer cwrs Gogledd Cymru” id=”applynorth” state=”closed”]

Byddwch cystal â chwblhau’r ffurflen gais isod i wneud cais ar gyfer lle ar y cwrs Cyflwyniad i Arweinyddiaeth Gofal Iechyd, Gogledd Cymru. Y dyddiadau yw:

Diwrnod 1: 17/10/19

Diwrnod 2: 21/11/19

Diwrnod 3: 23/01/20

Diwrnod 4: 27/02/20

Diwrnod 5: 26/03/20

Cais yn cau 13eg Medi 2019

Os yw’r ffurflen gais ar gau neu ar gael, gallwch gofrestru eich diddordeb yn y cwrs (au) yn y dyfodol drwy glicio yma.

[/accordion-item]

[accordion-item title=”Gwneud cais ar gyfer cwrs De Cymru” id=”applysouth” state=”closed”]

Byddwch cystal â chwblhau’r ffurflen gais isod i wneud cais ar gyfer lle ar y cwrs Cyflwyniad i Arweinyddiaeth Gofal Iechyd, De Cymru. Dyddiadau’r cwrs yw:

Diwrnod 1: 10/10/19

Diwrnod 2: 14/11/19

Diwrnod 3: 16/01/20

Diwrnod 4: 13/02/20

Diwrnod 5: 19/03/20

(Cais yn cau 13eg Medi 2019)

Os yw’r ffurflen gais ar gau neu ar gael, gallwch gofrestru eich diddordeb yn y cwrs (au) yn y dyfodol drwy glicio yma.

[/accordion-item]

[/accordion]