Trosolwg

This six-month programme aims to provide an introduction to healthcare leadership and enhance the management skills of members of the pharmacy profession who are in the early stages of career development, or are beginning their leadership journey.
Bydd y cyfranogwyr yn archwilio cryfderau ac ysgogiadau personol, ynghyd â’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu ac arwain timau o fewn sefydliadau.
Manteision
- Datblygu priodweddau personol, er enghraifft hunanymwybyddiaeth, hyder a sgiliau myfyriol
- Datblygu sgiliau rhyngbersonol a rheoli, gan gynnwys rheoli amser a dirprwyo, ysgogi a dylanwadu, rheoli prosiectau, pendantrwydd a deallusrwydd emosiynol, rheoli gwrthdaro a rheoli perfformiad.
- Dysgu a rhwydweithio ymhlith cydweithwyr gofal iechyd fferylliaeth o’r un anian ar draws yr holl sectorau
Cymhwysedd
- Ardystiad gan uwch aelod o’u sefydliad (oni bai eu bod yn cwblhau’r cwrs yn eu hamser eu hunain)
- Ymrwymiad i fynychu pob un o bedwar dyddiad y rhaglen
- Cwblhau’r ffurflen gais ar-lein
- Caiff lleoedd eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin
Paratoi ar gyfer y Cwrs
Cyn mynychu’r gweithdai rhyngweithiol byw, mae’n rhaid i’r dirprwyon gwblhau gweithgareddau cyn y cwrs ar gyfer Diwrnod 1 (a’r pedwar diwrnod dilynol, cyn pob diwrnod) a fydd yn hygyrch ar ôl cofrestru. Bydd y gwaith hwn yn rhan o’r portffolio myfyriol.
Strwythur y Cwrs
Gwaith Cyn y Cwrs
Cwblhau’r tasgau cyn y cwrs a chyn y gweithdai byw.
Gweithdai rhyngweithiol byw
Mynychu pob un o’r pum gweithdy rhyngweithiol byw 1-diwrnod. Bydd pob gweithdy’n cynnwys gweithgareddau a chyflwyniadau gan weithwyr iechyd proffesiynol profiadol sy’n gysylltiedig ag addysg a datblygiad.
Gweithgareddau ymarfer
Cwblhau’r tasgau ar ôl y cwrs a’r portffolio tystiolaeth.
Asesiad
Adolygu’r portffolio myfyriol gorffenedig.
Gwneud cais ar gyfer cwrs Gogledd Cymru
Byddwch cystal â chwblhau’r ffurflen gais isod i wneud cais ar gyfer lle ar y cwrs Cyflwyniad i Arweinyddiaeth Gofal Iechyd, Gogledd Cymru. Y dyddiadau yw:
Diwrnod 1: 17/10/19
Diwrnod 2: 21/11/19
Diwrnod 3: 23/01/20
Diwrnod 4: 27/02/20
Diwrnod 5: 26/03/20
Cais yn cau 13eg Medi 2019
Os yw’r ffurflen gais ar gau neu ar gael, gallwch gofrestru eich diddordeb yn y cwrs (au) yn y dyfodol drwy glicio yma.
Gwneud cais ar gyfer cwrs De Cymru
Byddwch cystal â chwblhau’r ffurflen gais isod i wneud cais ar gyfer lle ar y cwrs Cyflwyniad i Arweinyddiaeth Gofal Iechyd, De Cymru. Dyddiadau’r cwrs yw:
Diwrnod 1: 10/10/19
Diwrnod 2: 14/11/19
Diwrnod 3: 16/01/20
Diwrnod 4: 13/02/20
Diwrnod 5: 19/03/20
(Cais yn cau 13eg Medi 2019)
Os yw’r ffurflen gais ar gau neu ar gael, gallwch gofrestru eich diddordeb yn y cwrs (au) yn y dyfodol drwy glicio yma.