[accordion openfirst=”true” clicktoclose=”true” scroll=”false”]
[accordion-item title=”Trosolwg” id=”Overview” state=”open”]
Mae’r cwrs yn darparu sgiliau, gwybodaeth ac achrediad City & Guilds i fferyllwyr a thechnegwyr fferylliaeth i’w galluogi i ddatblygu eu rolau fel aseswyr yn seiliedig ar waith.
Bydd y cwrs yn cynorthwyo i ddatblygu’r sgiliau i alluogi fferyllwyr a thechnegwyr fferylliaeth i asesu’r dysgwyr sy’n cwblhau’r rhaglenni hyfforddiant sy’n seiliedig ar Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Manteision” id=”Benefits” state=”closed”]
- Cymwyster City & Guilds a gydnabyddir yn genedlaethol
- Cryfhau rolau a sgiliau fferyllwyr a thechnegwyr fferylliaeth i gefnogi datblygiad y tîm fferylliaeth.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Cymhwysedd” id=”eligibility” state=”closed”]
- Fferyllydd cofrestredig neu dechnegydd fferylliaeth sydd ag o leiaf dwy flynedd o brofiad ôl-gofrestredig
- Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr fynediad at o leiaf dau ddysgwr sy’n cwblhau rhaglenni hyfforddiant yn seiliedig ar Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol gyda Chanolfan Addysg Fferylliaeth Broffesiynol Cymru
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr gael ardystiad gan eu rheolwr goruchwylio fferylliaeth
- Cwblhau’r ffurflen gais ar-lein a’r broses gyfweld.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Paratoi ar gyfer y Cwrs” id=”precourse” state=”closed”]
Cyn mynychu’r gweithdy deuddydd wyneb yn wyneb, mae’n rhaid i ymgeiswyr ymgyfarwyddo â’r safonau Cymhwysedd Galwedigaethol Cenedlaethol y byddan nhw’n eu hasesu yn eu hardal waith.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Strwythur y cwrs” id=”coursestructure” state=”closed”]
Gweithdai rhyngweithiol byw gyda siaradwyr gwadd
Mynychu dau ddiwrnod llawn o weithgareddau a chyflwyniadau.
Gweithgareddau ymarfer
Cwblhau portffolio ar sail tystiolaeth.
[/accordion-item]
[/accordion]