28th Chwefror 2018

Polisi Canslo

Os na fedrwch fynychu gweithdy hyfforddiant byw DPP, byddwch cystal â chanslo’ch cais dros y ffôn neu thrwy e-bost, o leiaf un diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Os ydych yn canslo ar gyfer digwyddiad gyda’r hwyr, mae angen canslo ar y diwrnod cyn y digwyddiad. Bydd hyn yn ein galluogi i gynnig eich lle i rywun arall.

Bydd methiant i ganslo ar gyfer achlysur gyda’r hwyr o fewn yr amser priodol yn arwain at codiad-tâl o £25 tuag at gostau’r achlysur.

Os cawsoch gadarnhad o le ar y rhaglen, ac yna’n dymuno tynnu’n ôl, mae’n rhaid i ni dderbyn hysbysiad ysgrifenedig o leiaf pythefnos cyn dechrau’r cwrs er mwyn ein galluogi i brosesu eich ad-daliad. Ni fyddwn yn gwneud ad-daliadau ar ôl y dyddiad hwn; bydd y taliad yn cyfrannu tuag at gost y cymhorthdal ac mae’n bosibl y codir tâl am ganslo.

Rydym yn cadw’r hawl i ganslo neu aildrefnu unrhyw weithgaredd/gwrs/rhaglen. Gwneir y penderfyniad i ganslo neu ail-drefnu heb fod yn hwyrach na hanner dydd, bum diwrnod gwaith cyn dyddiad y digwyddiad, oni bai am ddigwyddiad y tu hwnt i’n rheolaeth.

Os bydd yn rhaid i AaGiC ohirio achlysur, fe wnawn ein gorau i gysylltu â phob cyfranogwr trwy e-bost neu ffôn, yn ogystal â phostio rhybudd canslo ar ein gwefan a thudalennau’n cyfryngau cymdeithasol. Rydyn ni’n eich annog felly i sicrhau bod eich manylion cofrestru personol yn gywir, ac i gadw golwg rheolaidd ar ein gwefan.