Supporting Patients Taking Direct Oral Anticoagulants (DOACs) (22CPD010)

£0.00 inc. VAT

You must be logged in to register for this event.
Click here to login

When

28th April 2022 19:30 to 20:30
Category:

Description

Cefnogi cleifion sy'n cymryd Gwrthgeulyddion Uniongyrchol drwy’r Geg (DOAC) / Supporting Patients Taking Direct Oral Anticoagulants (DOACs)

Trosolwg:

Mae’r gwrthgeulyddion Uniongyrchol drwy’r Geg; apixaban, dabigatran, edoxaban a rivaroxaban wedi bod o gwmpas ers rhai blynyddoedd bellach. Er hyn, maent yn dal i gael eu cyfeirio atynt ar adegau fel gwrthgeulyddion drwy’r geg ‘Newydd’ (NOAC). Mae’r defnydd ohonynt yn cynyddu, ac mae Canllawiau NICE, a gyhoeddwyd y llynedd, bellach yn eu hargymell fel triniaeth gyntaf yn lle warffarin i gleifion â ffibriliad atrïaidd. Ymunwch â ni’n y weminar hon i sicrhau’ch bod yn ymwybodol o’r holl ddatblygiadau diweddaraf, gan gynnwys pryd i'w defnyddio, pa feddyginiaeth i’w defnyddio yn ogystal â’r gwahaniaethau rhwng defnyddio DOAC a warffarin, er mwyn rhoi’r gefnogaeth orau i’r cleifion sy'n defnyddio'r meddyginiaethau hyn. 

Deilliannau Dysgu:

Yn dilyn y digwyddiad bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Rhestru’r arwyddion a'r gwrth-arwyddion ar gyfer defnyddio DOAC
  • Disgrifio sut i asesu'r risg o strôc ymysg cleifion â ffibriliad atrïaidd
  • Esbonio sut i asesu'r risg o waedu ymysg cleifion sy'n cymryd DOAC
  • Dynodi amrywiaeth o Gymhorthion Penderfyniad y Claf y gellir eu defnyddio wrth siarad â chleifion â ffibriliad atrïaidd sy'n ystyried dechrau ar DOAC
  • Adnabod y gwahanol Ganllawiau sydd ar gael ar gyfer trin cleifion â ffibriliad atrïaidd
  • Cydnabod adnoddau allweddol y gellir eu defnyddio i gefnogi eu hymarfer eu hunain a hefyd i gyfeirio cleifion atynt

Dyluniwyd ar gyfer:

Gweithwyr fferyllol proffesiynol sy'n gweithio mewn rolau sy'n wynebu cleifion yn y gymuned, ym maes gofal sylfaenol neu'r sector gofal dan reolaeth. Er y bydd rhai agweddau’n fwy perthnasol i Ragnodwyr Annibynnol a/neu'r rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau practis meddyg teulu, mae croeso i bob cydweithiwr fynychu.  

Siaradwyr: 

Gethin Morgan, 
Fferyllydd Practis, Meddygfa Roath House 

Fformat:
Cyflwyniad gyda'r cyfle i ofyn cwestiynau i'r siaradwr arbenigol yn ystod y weminar.

Gwaith paratoi cyn y cwrs:
Dim

Mae cofrestriadau’n cau:
19:30 ar ddiwrnod y digwyddiad.

Overview:

The Direct oral anticoagulants; apixaban, dabigatran, edoxaban and rivaroxaban have been around for some years now. Despite this they are still sometimes referred to as ‘Novel’ or ‘New’ oral anticoagulants (NOACs). Their use is increasing, and NICE Guidance published last year now recommends them first line over warfarin for patients with atrial fibrillation. Join us on this webinar to ensure you are up to date with all the latest developments, including when to use, which to choose as well as differences between the use of DOACs and warfarin, to be able to best support patients using these medicines. 

Learning Outcomes:

After the event participants will be able to:

  • List the indications and contra-indications for use of DOACs
  • Describe how to assess stroke risk for patients with atrial fibrillation
  • Explain how to assess bleeding risk for patients taking DOACs
  • Identify a range of Patient Decision Aids that can be used when talking to patients with atrial fibrillation considering starting a DOAC
  • Know the various Guidelines that are available for managing patients with atrial fibrillation
  • Recognise key resources that can be used to support own practice and also to signpost patients to

Designed for:

Pharmacy professionals working in patient facing roles in community, primary care or managed sector. Although some aspects may be more relevant to Independent Prescribers and/or those working within GP practice settings, all colleagues are welcome to attend.  

Speakers: 

Gethin Morgan, 
Practice Pharmacist, Roath House Surgery

Format:

A presentation with the opportunity to ask questions to the expert speaker during the webinar

Pre-course Preparation:

None

Registration Closes:

19:30 on day of event