*CANCELLED* Thyroid and Parathyroid Disorders focal point (22CPD017)

£0.00 Cynnwys TAW

Rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.
Cliciwch yma i fewngofnodi

When

07th July 2022 19:30 to 21:00

Location

Oriel Hotel,
Upper Denbigh Road,
St Asaph, LL17 0LW

Categories: ,

Description

Anhwylderau Thyroid a Pharathyroid / Thyroid and Parathyroid Disorders focal point 

(scroll down for English)
 
Trosolwg: 
 
Mae hormonau'r chwarren thyroid yn rheoli metabolaeth y corff ac yn effeithio ar dwf a datblygiad, tra mae’r chwarennau parathyroid yn rheoli lefelau calsiwm. Gall nifer o anhwylderau effeithio ar weithrediad y chwarennau gan arwain at effeithiau anffafriol. Bydd y man ffocysu hwn yn canolbwyntio ar reoli'r anhwylderau hyn, gan gynnwys symptomau, profion ac ymyriadau meddygol ac anfeddygol.
 
Canlyniadau Dysgu:
 
Ar ôl yr achlysur hwn bydd y rhai sy’n mynychu yn gallu: 

  • Disgrifio prif nodweddion anhwylderau'r thyroid, gan gynnwys isthyroidedd, gorthyroidedd, goitr, nodiwlau thyroid a chanser y thyroid. Yn ogystal byddant yn gallu disgrifio nodweddion  parathyroid, gan gynnwys isbarthyroidedd a chanser y parathyroid.
  • Adnabod y ffactorau neu anhwylderau all gyfrannu at ddatblygiad a/neu barhad y cyflyrau hyn, gan gynnwys thyroiditis Hashimoto a chlefyd Grave.
  • Adnabod symptomau argyfyngus a phryd mae angen atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad clinigol
  • Adolygu'r profion clinigol a ddefnyddir ar gyfer diagnosteg a chynllunio triniaeth
  • Archwilio'r gwahanol opsiynau rheoli ffarmacolegol gan gynnwys trefnau dosau, rhybuddion, gofynion monitro a sut i reoli sgil-effeithiau 

Wedi'i gynllunio ar gyfer:

Gweithwyr fferyllol proffesiynol sy'n gweithio ym maes Gofal Sylfaenol a Chymunedol. Mae croeso i staff sy'n gweithio mewn sectorau eraill fynychu er gwybodaeth.

Hwyluswyr:

Hwyluswyr AaGIC

Fformat:

Bydd y cwrs hwn yn cynnwys darllen cyn y cwrs a gweithgareddau. Bydd y sesiwn gyda'r nos yn sesiwn wedi'i hwyluso gyda thrafodaeth weithredol o senarios gyda'ch cydweithwyr. 

Paratoi cyn y cwrs:

Bydd llyfryn paratoi ar gyfer y gweithdy ar gael i chi tua phythefnos cyn y digwyddiad. Bydd angen llenwi hwn a darparu deunydd i'w drafod a'i adolygu yn y digwyddiad

Lluniaeth:

Bydd lluniaeth a byrbrydau ar gael o 19:00. Nodwch unrhyw ofynion dietegol.

Dyddiad cau i gofrestru:

29/06/2022

Overview: 
 
The thyroid gland hormones regulate the body’s metabolism and affect growth and development, while the parathyroid glands regulate calcium levels. Several disorders can affect the function of the glands leading to adverse effects.  This focal point will concentrate on the management of these disorders, including, symptoms, testing and medical and non-medical interventions.
 
Learning outcomes:
 
After attending this event participants will be able to: 

  • Describe the main features of thyroid disorders, including hypothyroidism, hyperthyroidism, goitre, thyroid nodules and thyroid cancer, and parathyroid disorders, including hypoparathyroidism, hyperparathyroidism and parathyroid cancer.
  • Identify the factors or disorders that may contribute to the development and/or continuation of these conditions, including Hashimoto’s thyroiditis and Grave’s disease
  • Recognise red flag symptoms and when referral is necessary for clinical investigation
  • Review the clinical tests used for diagnostics and treatment planning
  • Explore the different pharmacological management options including, dosage regimens, cautions, monitoring requirements and how to manage side-effects

 
Designed for: 

Pharmacy professionals working in Primary Care and Community. Staff working in other sectors are welcome to attend for information.

Facilitators:

HEIW Facilitators

Format: 

This course will consist of pre-course reading and activities. The session will be a facilitated session with active discussion of scenarios with your colleagues.
 
Pre-course preparation:

A pre-workshop booklet will be made available to you approximately two weeks prior to the event. This will require completion and provide material for discussion and review at the event.

Refreshments:

Refreshments and snacks will be available from 19:00. Please state any dietary requirements.

Registration closes:

29/06/2022