Long COVID – an update (22CPD021)

£0.00 Cynnwys TAW

Rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.
Cliciwch yma i fewngofnodi

When

14th June 2022 19:00 to 20:00

Location

Olive Tree,
Edlogan Way,
Croesyceiliog,
Cwmbran, NP44 2JJ

Category:

Description

COVID Hir – Diweddariad / Long COVID – An update
Scroll down for English

Trosolwg:

Er bod symptomau COVID-19 yn cilio’n gyflym i’r mwyafrif, mae rhai pobl yn dioddef effeithiau parhaus. Wrth i amser fynd heibio, rydym yn dysgu mwy am yr effeithiau hyn a pham bod rhai pobl yn eu profi ac eraill ddim. Ymunwch â ni’n y weminar gydweithredol hon a drefnwyd gan dimau DPP Meddygon Teulu a Fferylliaeth AaGIC, i gael diweddariad ar COVID-19 Hir a sut y gallwn gefnogi ein cleifion ledled Cymru.

Deilliannau Dysgu:

Yn dilyn mynychu’r digwyddiad hwn bydd cyfranogwyr yn gallu: 

  • Egluro beth yw COVID Hir ac unrhyw ddiweddariadau o ran arwyddion a symptomau i fod yn wyliadwrus ohonynt
  • Trafod unrhyw ddiweddariadau o ran pathoffisioleg bosibl syndrom ôl-COVID
  • Disgrifio’r ystod o ymchwiliadau a all fod o gymorth i reoli syndrom ôl-COVID
  • Nodi gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol y gellir eu darparu i gefnogi cleifion
  • Rhoi crynodeb o’r gwasanaethau ôl-COVID sydd ar gael mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru

Dyluniwyd ar gyfer: 

Er bod y sesiwn hon wedi’i datblygu’n bennaf ar gyfer Meddygon Teulu a Gweithwyr Fferyllol Proffesiynol sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, mae croeso i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill fynychu, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio mewn sectorau eraill.

Siaradwyr:

Amrywiaeth o siaradwyr, sydd â diddordeb arbenigol mewn COVID Hir, sy’n gweithio mewn lleoliadau Meddygaeth Deuluol a Fferylliaeth.

Fformat: 

Gweminar ryngweithiol gyda chyfle i holi cwestiynau, yn cael ei thraddodi gan siaradwyr arbenigol.

Gwaith paratoi cyn y cwrs:

Does dim gwaith paratoi ond efallai yr hoffai cydweithwyr wrando ar weminar COVID Hir 2021, yma NICE Update – Long Covid – HEIW Pharmacy (wcppe.org.uk)

Dyddiad cau cofrestru:

07/06/2022

Overview:

While COVID-19 symptoms pass quickly for most, some people are suffering ongoing effects. As time passes, we are learning more about these effects and why some people experience them and some do not. Join us on this collaborative webinar organised by the GP and Pharmacy CPD teams within HEIW, for an update on Long COVID and how we can support our patients across Wales.

Learning outcomes:

After attending this event participants will be able to: 

  • Explain what Long COVID is and any updates in signs and symptoms to look out for
  • Discuss any updates to the potential pathophysiology of post-COVID syndrome
  • Describe the range of investigations that can be helpful in the management of post-COVID syndrome
  • Identify helpful information and resources that can be provided to support patients
  • Summarise what post-COVID services are available in different areas across Wales

Designed for: 

Although this session has been predominantly developed for GPs and Pharmacy Professionals working in primary care and community settings, other healthcare professionals, including those working in other sectors, are welcome to attend.

Speakers:

A range of speakers with a specialist interest in Long COVID working within both GP and Pharmacy settings

Format: 

An interactive webinar, delivered by expert speakers with opportunity for questions

Pre-course preparation:

Nothing required but colleagues may want to listen to the Long COVID webinar from 2021 here NICE Update – Long Covid – HEIW Pharmacy (wcppe.org.uk)

Registration closing date: 

07/06/2022