Medication Without Harm- Are you ready for World Patient Safety Day 2022? (22CPD027)

£0.00 Cynnwys TAW

Rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.
Cliciwch yma i fewngofnodi

When

06th September 2022 19:30 to 20:30

Location

Olive Tree,
Edlogan Way,
Croesyceiliog,
Cwmbran, NP44 2JJ

Category:

Description

Meddyginiaeth heb Niwed – Ydych chi’n barod am Ddiwrnod Diogelwch Cleifion 2022? / Medication Without Harm- Are you ready for World Patient Safety Day 2022?
 
Trosolwg: 

“Diogelwch meddyginiaeth” yw thema Diwrnod Diogelwch Cleifion eleni. Nod y diwrnod iechyd byd-eang cyhoeddus hwn yw cynyddu ymwybyddiaeth, ymgysylltiad a dealltwriaeth er mwyn hyrwyddo diogelwch cleifion. Gall ffactorau amrywiol arwain at gamgymeriadau meddyginiaeth a niwed cysylltiedig sy’n ymwneud â meddyginiaeth. Yn ogystal, mae pandemig COVID-19 wedi dwysáu’r risg oherwydd paramedrau amrywiol sy’n cynnwys systemau meddyginiaeth a ffactorau dynol megis blinder a diffyg staff. 

Mae slogan Diwrnod Diogelwch Cleifion 2022 sef “Meddyginiaeth Heb Niwed” yn canolbwyntio ar wneud y broses rhoi meddyginiaeth yn fwy diogel ac yn rhydd rhag niwed. Mae e hefyd yn galw ar randdeiliaid i flaenoriaethu diogelwch meddyginiaeth a mynd i’r afael ag arferion anniogel a gwendidau yn y system. Bydd yn canolbwyntio ar dri phrif achos niwed mae modd ei osgoi sy’n deillio o feddyginiaeth: amlgyffuriaeth, sefyllfaoedd risg uchel a throsglwyddiadau gofal.

Ymunwch â ni a chynrychiolwyr o broffesiynau gwahanol sy’n arbenigo yn y maes yma. Yn ogystal â deall a gweithredu mentrau i ategu’r agenda Diogelwch Meddyginiaeth, byddwn ni hefyd clywed am eu rolau a’r hyn sydd ar gael i’ch cynorthwyo chi yn eich rôl chi.

 
Deilliannau Dysgu:
 
Ar ôl cymryd rhan yn y digwyddiad hwn, bydd y cyfranogwyr yn gallu gwneud y canlynol:
 

  • Rhoi crynodeb o nod Diwrnod Diogelwch Cleifion Byd-eang  
  • Rhestru’r ffactorau a all effeithio ar Ddiogelwch Meddyginiaeth, yn arbennig yn y cyfnod ôl-COVID
  • Nodi sut y gall rolau o fewn y gweithlu ategu’r agenda Diogelwch Meddyginiaeth (rolau arbenigol a’r rhai hynny nad ydynt yn arbenigol)  
  • Adnabod y ffactorau a all wella Diogelwch Meddyginiaeth 
  • Diffinio’r prif adnoddau a’r llwybrau cyfeirio a all eich cynorthwyo yn eich rolau

 
Wedi’i lunio ar gyfer: 

Gweithwyr proffesiynol Fferylliaeth sy’n gweithio mewn unrhyw sector. Mae’r digwyddiad hwn ar agor i bob gweithiwr iechyd proffesiynol, ac rydym yn croesawu pobl o broffesiynau gwahanol ledled Cymru. 

Siaradwyr:

Dr Lynette James, Fferyllydd Ymgynghorol Cymru Gyfan – Gofal Acíwt a Diogelwch Meddyginiaeth
Dr James Coulson, Cyfarwyddwr Clinigol Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AETHECH)
Dr. Carolyn (Lyn) Middleton MBE, Dirprwy Bennaeth Addysg, Datblygu a Rheoleiddio Nyrsio, BIP Aneurin Bevan
Rhian Lloyd-Evans, Fferyllydd Arweiniol, Diogelwch Meddyginiaeth, BIP Aneurin Bevan
Andrea Griffiths, Technegydd Fferyllfa – Diogelwch Meddyginiaeth

Fformat: 

Cyflwyniad rhyngweithiol gyda’r cyfle i holi cwestiynau. 

 

Overview:
 
“Medication Safety” is the theme for World Patient Safety Day this year.  The aim of this World Health Organisation (WHO) global public health day is to increase awareness, engagement and understanding to promote patient safety. Various factors can affect medication errors and associated medication-related harm. In addition, the COVID-19 pandemic has exacerbated the risk due to various parameters including medication systems and human factors such as fatigue and staff shortages. 

The slogan of World Patient Safety Day 2022 “Medication Without Harm” focusses on making the process of medication safer and free from harm. It also calls on stakeholders to prioritise medication safety and address unsafe practices and system weaknesses. It will focus on the three main causes of avoidable harm arising from medication: polypharmacy, high-risk situations and transitions of care.

Join us along with representatives from various professions that specialise in this area. In addition to understanding and implementing initiatives to support the Medication Safety agenda, we will also hear about their roles and what is available to support you in yours. 

 
Learning outcomes:
 
After attending this event participants will be able to: 
 

  • Summarise the aim of World Patient Safety Day 
  • List factors that can impact Medication Safety, especially post-COVID
  • Identify how roles within the workforce can support the Medication Safety agenda (specialist and non-specialist roles)
  • Recognise the factors that can improve Medication Safety
  • Define the main resources and signposting pathways that can support you in your roles

 
Designed for: 

Pharmacy professionals working in any sector. This event is open to all healthcare professionals, and we welcome attendance from across professions in Wales. 

Speakers:

Dr Lynette James, All Wales Consultant Pharmacist – Acute Care & Medication Safety
Dr James Coulson, Clinical Director of the All Wales Therapeutics and Toxicology Centre (AWTTC)
Dr. Carolyn (Lyn) Middleton MBE, Deputy Head of Nursing Education, Development and Regulation, ABUHB
Rhian Lloyd-Evans, Lead Pharmacist, Medication Safety ABUHB
Andrea Griffiths, Pharmacy Technician Medicine Safety

Format: 

An interactive presentation with the opportunity for questions.