Description
Tiwmor yr Ymennydd – sesiwn ymwybyddiaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol / Brain Tumour – awareness session for healthcare professionals
(please scroll down for English)
Trosolwg:
Er bod tiwmorau yr ymennydd yn brin, mae bron i 11,000 o oedolion a 500 o blant a phobl ifanc yn y DU yn cael diagnosis o diwmor yr ymennydd bob blwyddyn. Mae ymwybyddiaeth o symptomau tiwmor yr ymennydd yn hollbwysig drwy ystod ein proffesiynau. Gall adnabyddiaeth o’r arwyddion a’r symptomau arwain at ddiagnosis cyflymach o diwmor yr ymennydd, a allai gyfyngu ar ei effaith. Ymunwch â ni ar gyfer y weminar hon, sy’n croesawu bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i ddysgu mwy ac i nodi ffyrdd o wneud gwahaniaeth yn sgil ein rolau amrywiol.
Deilliannau dysgu:
Ar ôl mynychu’r digwyddiad hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Disgrifio’r 10 prif arwydd a symptom sy’n gysylltiedig â thiwmor yr ymennydd cynradd
- Diffinio paramedrau a all ddylanwadu ar y ffactorau risg o ran twf tiwmorau’r ymennydd
- Cydnabod cyffredinrwydd (tiwmorau’r ymennydd) a chanfyddiadau yn sgil ymchwil ac arolygon
- Nodi’r rolau y gall gwahanol broffesiynau eu cyflawni wrth gynorthwyo cleifion a allai fod â thiwmorau’r ymennydd
- Crynhoi ymgyrchoedd a’r adnoddau sydd ar gael i ategu a chynyddu’r ymwybyddiaeth o diwmorau’r ymennydd.
Dyluniwyd ar gyfer:
Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ysgwyddo rolau yng ngŵydd cleifion ledled Cymru.
Siaradwyr:
Lorcan Butler
BSc (Anrh) MCOptom, Athro Ardystiedig Gofal Llygaid Plant
Rheolwr Ymgysylltu Optegol
Mae Lorcan yn optometrydd gyda The Brain Tumour Charity. Mae Lorcan wedi traddodi darlithoedd, cyflwyniadau a gweminarau i ymarferwyr gofal iechyd. Mae wedi cenhadu ym mhob un o’r pedair gwlad ddatganoledig ynghylch pwysigrwydd canfyddiad cynnar, a chyfeirio cynnar yn achos tiwmorau’r ymennydd amheus. Mae Lorcan wedi cyflwyno yn y gorffennol i Optometreg Cymru, AHP Addysg Iechyd Lloegr a Chymdeithas Genedlaethol y Meddygon Teulu Sesiynol. Hefyd, mae wedi gweithio a chyflwyno mewn cydweithrediad â Gateway C ac Addysg Genedlaethol yr Alban.
Fformat:
Cyflwyniad rhyngweithiol gyda’r cyfle i gwestiynau.
Paratoi cyn y cwrs:
Dim
Dyddiad cau cofrestru:
19:00 ar 28/02/2023
Overview:
Although brain tumours are rare, almost 11,000 adults and 500 children and young people in the UK are diagnosed with a brain tumour each year. Awareness of brain tumour symptoms is so important across our professions. Knowing the signs and symptoms can lead to quicker diagnosis of a brain tumour, which could reduce its impact. Join us on this webinar, open to all healthcare professionals to learn more and to identify ways we can make a difference in our various roles.
Learning outcomes:
After attending this event participants will be able to:
- Describe the top 10 signs & symptoms associated with a primary brain tumour
- Define parameters that can affect risk factors for brain tumours
- Recognise prevalence and findings from research and surveys
- Identify the role different professions can make in supporting patients who may have brain tumours
- Summarise campaigns and resources available to support and increase the awareness of brain tumours.
Designed for:
Healthcare professionals working in patient-facing roles across Wales.
Speakers:
Lorcan Butler
BSc (Hons) MCOptom, Prof Cert Paed Eye Care
Optical Engagement Manager
Lorcan is an optometrist with The Brain Tumour Charity. Lorcan has delivered lectures, presentations and webinars in all 4 devolved nations to healthcare practitioners about the importance of early detection, and early referral of suspect brain tumours. Lorcan has presented in the past to Optometry Wales, Health Education England AHPs and the National Association of Sessional GPs. and has worked and presented with Gateway C and National Education for Scotland.
Format:
An interactive presentation with the opportunity for questions.
Pre-course preparation:
Nil
Registration closing date:
19:00 on 28/02/2023