Adverse Drug Reaction Reporting: Are you doing everything you can? (webinar recording)

£0.00 inc. VAT

You must be logged in to register for this event.
Click here to login

When

07th November 2022 00:01

Location

,
Online,

Category:

Description

Adrodd adweithiau niweidiol i gyffuriau (ADR): Ydych chi'n gwneud popeth allwch chi? / Adverse Drug Reaction reporting: Are you doing everything you can?
(please scroll down for English)

Trosolwg: 
 
Mae adrodd am adweithiau niweidiol i gyffuriau (ADRs) yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch derbyniol o feddyginiaethau sydd ar y farchnad. Yn anffodus, mae pob system adrodd ar draws y byd yn dioddef o ddiffyg adrodd. Yn hyn o beth, bob blwyddyn mae ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o systemau gwyliadwriaeth ffarmacolegol a hyrwyddo adnabod ac adrodd am ADR.

Mae Wythnos Diogelwch Meddyginiaethau yn rhedeg bob mis Tachwedd gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o ADR a’r systemau adrodd cenedlaethol. Bydd ymgyrch 2022 yn digwydd o 7 i 13 Tachwedd 2022 ar y thema sut mae cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwneud i ddiogelwch gweithio. Ymunwch â ni yn y weminar hwn wrth baratoi ar gyfer yr ymgyrch honno, i ddeall sut y gallwn ni fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wneud gwahaniaethau go iawn. 

Canolfan Cerdyn Melyn (CCM) Cymru yw un o bum canolfan ranbarthol monitro adweithiau niweidiol i gyffuriau (ADR) sy’n gweithredu ar ran yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Mae YCC Cymru yn annog adrodd am adweithiau niweidiol a amheuir trwy'r cynllun Cerdyn Melyn. Yn y weminar hon, bydd cydweithwyr o YCC yn eich diweddaru ar ADR a systemau adrodd, ynghyd â rhoi gwybodaeth bellach am ymgyrch Wythnos Diogelwch Meddygaeth 2022.
 
Deilliannau Dysgu:

  • Adnabod pa ffactorau i'w hystyried os yw ADR yn cael ei amau
  • Egluro pwysigrwydd adrodd
  • Nodi beth i'w adrodd ar Gerdyn Melyn
  • Amlinellu her ADR yng Nghymru
  • Disgrifio sut mae gwybodaeth Cerdyn Melyn yn cael ei ddefnyddio
  • Adnabod ffyrdd o osgoi ADR
  • Diffinio paramedrau i'w hystyried ar gyfer rhagnodi diogel ac effeithiol
  • Nodi ffyrdd o gefnogi ymgyrch wythnos Diogelwch Meddyginiaethau 

 Overview: 
 
The reporting of adverse drug reactions (ADRs) is vital to ensure acceptable safety of medicines on the market. Unfortunately, all reporting systems across the world suffer from under reporting. For this reason, each year there is a social media campaign to raise awareness of pharmacovigilance systems and promote recognition and reporting of suspected ADRs.

Medicines Safety Week runs every November with the aim of raising awareness of ADRs and national reporting systems. The 2022 campaign will happen from 7 to 13 November 2022 on the theme of how patients and healthcare professionals make safety work. Join us at this webinar in preparation for that campaign, to understand how we as healthcare professionals can make real differences. 

The Yellow Card Centre (YCC) Wales is one of five regional ADR monitoring centres, acting on behalf of the Medicines and Healthcare products Regulatory Agency (MHRA). YCC Wales encourages suspected adverse reaction reporting via the Yellow Card scheme. On this webinar, colleagues from YCC will update you on ADR and their reporting, along with further information on the 2022 Medicine Safety Week campaign. 
 
Learning outcomes:

  • Recognise what factors to consider if an ADR is suspected
  • Explain the importance of reporting
  • Identify what to report on a Yellow Card
  • Outline the challenge of ADRs in Wales
  • Describe how Yellow Card information is used
  • Recognise ways to avoid ADRs and interactions
  • Define parameters to consider for safe and effective prescribing
  • Identify ways to support the medicines Safety week campaign