Cyflenwi Ailadroddus

£0.00 Cynnwys TAW

Rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.
Category:

Description

Trosolwg

– Mae’r pecyn dysgu o bell yma yn edrych i weld sut byddai gwasanaeth cyflenwad ailadroddus yn gweithio, y dogfennau sydd eu hangen, a chyfrifoldebau’r fferyllydd. Mae angen i’r pecyn gael ei gwblhau gan holl fferyllwyr cymunedol sydd eisiau darparu gwasanaeth cyflenwad ailadroddus, fel rhan o’u gwasanaethau hanfodol yn y cytundeb newydd.

Amcanion dysgu

Ar ôl cwblhau pob agwedd o’r rhaglen hon, dylech fod yn gallu:

  • Disgrifio sut bydd trefniadau Cyflenwad Ailadroddus GIG yn gweithio yng Nghymru
  • Nodi o leiaf 2 welliant i’r rhai hynny sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau cyflenwi ailadroddus (cleifion, fferyllwyr, meddygon teulu a gweithwyr meddygfeydd teulu)
  • Esbonio pam fod angen cydsyniad llawn wybyddiaeth
  • Nodi’r cysylltiadau allweddol, lleol, ar gyfer cyflenwi ailadroddus
  • Rhestru dau brotocol ar gyfer arfer da mewn perthynas â chyflenwi ailadroddus
  • Amlinellu’r ffactorau sydd angen eu hystyried wrth ysgrifennu Gweithdrefn Weithredu Safonol
  • Rhestru dau wefan lle gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ynglŷn â chyflenwi ailadroddus