Cyfle Gwella Ymarfer QIST.

Annwyl bawb,

Mae cofrestru bellach ar agor ar gyfer y gweithdy deuddydd Gwella QIST mewn Ymarfer, Fferylliaeth (a elwid gynt yn IQT Lefel Arian). Bydd hyn yn cael ei gynnal ar:

Diwrnod 1: Dydd Iau 28 Ebrill 2022

Diwrnod 2: Dydd Iau 19 Mai 2022

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer Fferyllwyr yn unig.

Cynhelir y ddau weithdy yn rhithwir a bydd manylion ymuno yn cael eu hanfon ar ôl cofrestru.

Mae mynychu dau ddiwrnod y gweithdy a chyflwyno prosiect a gwblhawyd yn llwyddiannus yn arwain at ddyfarnu Achrediad Gwella mewn Ymarfer.

Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim i’w mynychu. Mae lleoedd yn gyfyngedig a chynghorir cofrestru cynnar. Gweler y Daflen Gweithdy amgaeedig am ragor o wybodaeth.

Rhaid i gynrychiolwyr gofrestru eu lle gan ddefnyddio’r ddolen isod:

https://www.eventbrite.co.uk/e/improvement-in-practice-pharmacy-tickets-240129633197

Os bydd yr holl leoedd yn cael eu llenwi, bydd eich enw’n cael ei ychwanegu at Restr Aros ar gyfer y digwyddiad a byddwch yn cael gwybod os bydd lle ar gael ar gyfer y gweithdy. Sicrhewch eich bod yn darparu eich rhif cyswllt wrth gofrestru.

Mae’r rhaglen gweithdy deuddydd yn cynnwys:

• Hyfforddiant QI o ansawdd uchel drwy ddefnyddio gweithdai rhyngweithiol ar y fframwaith methodoleg sy’n sail i Wella Ansawdd.
• Mynediad at adnoddau hyfforddi a chymorth addysgol ar gyfer datblygu prosiectau QI arloesol a ddatblygwyd gan hyfforddeion a hyfforddwyr arbenigol sy’n ymgymryd â’u prosiectau eu hunain.

Caiff cynrychiolwyr gyfle i ddatblygu eu prosiect QI eu hunain fel rhan o’r gweithdy, gan weithio mewn grwpiau bach i gael arweiniad ymarferol gwerthfawr.

Diolch am eich diddordeb mewn Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd.

Fferyllfa IIP QIST 28.04.2021 Cymraeg (1)

Gweithdai QIST Fferylliaeth IIP 28.04.22 Eng (1)