21st Mawrth 2022

Rhagnodi anfeddygol

Rhagnodi anfeddygol neu ragnodi annibynnol yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio unrhyw waith rhagnodi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol nad yw’n feddyg na’n ddeintydd. Mae rhagnodwyr annibynnol yn gyfrifol ac yn atebol am asesu cleifion â chyflyrau â+ diagnosis a heb ddiagnosis ac am benderfyniadau am y rheolaeth glinigol sy’n ofynnol, gan gynnwys rhagnodi.

Er y bydd y gweithlu fferyllol cofrestredig newydd yn rhagnodwyr annibynnol o fis Awst 2026, bydd yn ofynnol i’r gweithlu presennol gwblhau cwrs rhagnodi, a gynigir mewn amrywiaeth o brifysgolion, i fod â’r gallu i ragnodi. Bob blwyddyn, mae Fferyllfa AaGIC yn cynnig nifer benodol o leoedd a ariennir bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth i fferyllwyr ymgymryd â chwrs rhagnodi.

Mae AaGIC yn ymrwymedig i gefnogi datblygiad y gweithlu fferyllol er mwyn iddynt fod yn rhagnodwyr, felly mae cyllid wedi’i ddynodi i gefnogi’r fferyllwyr sy’n gweithio mewn rolau sy’n wynebu cleifion i wneud yr hyfforddiant hwn a galluogi datblygiad parhaus gwasanaethau fferyllol i gefnogi poblogaeth Cymru.

Cyllid ar gyfer 2022/23

Ar gyfer 2022/23, mae Fferyllfa AaGIC wedi sicrhau cyllid i alluogi i 200 o fferyllwyr wneud yr hyfforddiant hwn. Bydd y lleoedd hyn ar ariennir ar gyrsiau rhagnodi yn cael eu dosrannu’n deg ledled Cymru ac yn yr holl sectorau ymarfer, gyda 100 o’r lleoedd hyn yn cael eu neilltuo ar gyfer fferylliaeth yn y gymuned.

Ar gyfer y fferyllwyr cymunedol hynny sydd wedi’u cyflogi gan fferyllfa benodol, mae gan AaGIC hefyd 100 o grantiau hyfforddi gwerth £3,000 ar gaei i roi cyllid i’ch cyflogwr gyflogi locwm er mwyn eich rhyddhau o’ch gweithle i gwblhau’r oruchwyliaeth wrth ymarfer sy’n ofynnol ar bob cwrs rhagnodi.

Ble gallaf astudio?
Ar hyn o bryd, mae AaGIC yn comisiynu cyrsiau rhagnodi yn y prifysgolion canlynol yng Nghymru:

• Cwrs Rhagnodi i Fferyllwyr Prifysgol Bangor Modiwl NHS-4259: Prescribing for Pharmacists, Bangor University
• Cwrs Rhoi Presgripsiynau’n Annibynnol gan Fferyllwyr Prifysgol Caerdydd Clinically Enhanced Pharmacist Independent Prescribing – Study – Cardiff University
• Cwrs Rhagnodi Anfeddygol Prifysgol Glyndwr Non-medical Prescribing for Nurses, Pharmacists and Allied Health Professionals – Wrexham Glyndwr University
• Rhagnodi Anfeddygol i Fferyllwyr Prifysgol Abertawe Non-Medical Prescribing for Pharmacists, PGCert – Swansea University
• Rhagnodi Annibynnol Prifysgol De Cymru Independent Prescribing | University of South Wales

Caiff ceisiadau am raglenni rhagnodi mewn prifysgolion y tu allan i Gymru eu hystyried a’u cyllido os gellir dangos nad oes cwrs cyfatebol neu leoedd ar gyrsiau rhagnodi ar gael yng Nghymru neu os bydd yr ymgeisydd wedi dangos yn glir bod rheswm dilys am y cais.

Sut gallaf wneud cais?
Mae’r dull gwneud cais am le a ariannir ar gwrs rhagnodi yn dibynnu ar eich sector ymarfer.

• Gweithio mewn sector a reolir (gofal cynradd ac eilaidd)

Os ydych chi’n gweithio mewn sector a reolir gan y GIG, bydd angen i chi ddilyn proses gwneud cais unigol eich bwrdd iechyd i gael lle a ariennir. Bydd eich arweinydd addysg neu hyfforddiant yn gallu rhoi rhagor o fanylion i chi am y broses hon.

• Gweithio mewn sefydliadau contractwr y GIG (practis meddyg teulu a fferyllfa gymunedol)

Eleni, bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol wrth AaGIC, gan ddefnyddio’r ddolen isod. Rhaid cyflwyno eich cais i AaGIC erbyn dydd Mercher 1 Mehefin 2022. Bydd AaGIC yn adolygu’r ceisiadau ac yn rhoi gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus y darperir cyllid am ffioedd cwrs iddynt a lle bo’n berthnasol, bwrsariaeth hyfforddiant gwerth £3,000 erbyn dydd Mawrth 14 Mehefin.

Bydd AaGIC yn rhoi llythyr nawdd i’r ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y brifysgol a chyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd gwneud cais i astudio’n uniongyrchol i’r brifysgol, cyn gynted â phosib, i gadw lle. Sylwer mai penderfyniad i brifysgol fydd derbyn eich cais ai peidio, gan ddibynnu ar ei meini prawf cymhwysedd.

I gyrchu’r ffurflen gais, cliciwch yma