[accordion openfirst=”true” clicktoclose=”true” scroll=”false”]
[accordion-item title=”Trosolwg” id=”Overview” state=”open”]
Mae’r rhaglen yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth ac achrediad i alluogi technegwyr fferylliaeth cofrestredig i gyflawni rôl technegydd fferyllfa gwirio achrededig yn gymwys a hyderus.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Manteision” id=”Benefits” state=”open”]
Wedi’i alinio i’r fframwaith cenedlaethol
- Yn datblygu ymwybyddiaeth broffesiynol o ymarfer fferylliaeth
- Mae’n datblygu cyfleoedd rhyngweithio proffesiynol gyda chleifion, cydweithwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill
- Mae’n annog arfer gorau
- Mae’n datblygu sgiliau cyfathrebu effeithiol
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Cymhwysedd” id=”eligibility” state=”open”]
- Isafswm o ddwy flynedd o brofiad ar ôl cymhwyso
- O leiaf chwe mis o brofiad cyflenwi o fewn y 12 mis diwethaf
- Tystiolaeth ategol o gyflenwi manwl gywir yn unol â’r trefniadau gweithredu safonol lleol
- Mynediad i oruchwyliwr addysgol a chefnogaeth gan eich uwch reolwr goruchwylio fferylliaeth
- Llenwi ffurflen gais ar-lein
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Paratoi ar gyfer y Cwrs” id=”precourse” state=”open”]
: Cyn mynychu’r gweithdy rhyngweithiol byw, bydd disgwyl i’r ymgeiswyr:
- Gwblhau’r pecyn e-ddysgu ar-lein yn llwyddiannus
- Ymgyfarwyddo â Chanllaw Meddyginiaethau, Moeseg ac Ymarfer a/neu’r Canllaw Oren
- Adolygu gwallau a gofnodir yn y gweithle. [/accordion-item]
[accordion-item title=”Strwythur y cwrs” id=”coursestructure” state=”open”]
Pecyn e-Ddysgu
Rhaid ei gwblhau a darparu tystiolaeth ei fod wedi’i gyflwyno bythefnos cyn mynychu’r gweithdy byw.
Gweithdy rhyngweithiol byw
Rhaid mynychu gweithdy undydd llawn i gwmpasu agweddau ymarferol gwirio eitemau a ddosbarthwyd. Hyfforddeion
gwblhau’r holl sesiynau gweithdy sydd eu hangen ar gyfer eu harbenigedd dewisol.
Gweithgareddau ymarfer
Rhaid darparu tystiolaeth o wirio 1000 o eitemau’n gywir o fewn un flwyddyn. Rhaid cadw’r holl dystiolaeth mewn portffolio i’w adolygu.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Asesiad” id=”assessment” state=”open”]
Wedi casglu 1000 o eitemau’n llwyddianus, bydd angen i’r hyfforddai gwblhau:
- Asesiad gwirio o 20 eitem a gyflenwyd
- Adolygiad o’u portffolio o dystiolaeth
- Cyfweliad â’r panel asesu lleol
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Ymgeisiwch am gwrs 12fed Mai 2020″ id=”applyone” state=”closed”]
Byddwch cystal â chwblhau’r ffurflen gais isod, i geisio am le ar y cwrs Technegydd Fferyllfa Gwirio Achrededig (TFGA) ar y 12fed o Mai 2020. Cais yn cau ar y 1af Mai 2020
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Ymgeisiwch am gwrs ar 11eg Tachwedd 2020″ id=”applyone” state=”closed”]
Byddwch cystal â chwblhau’r ffurflen gais isod, i geisio am le ar y cwrs Technegydd Fferyllfa Gwirio Achrededig (TFGA) ar y 11eg o Tachwedd 2020. Cais yn cau ar y 1af Tachwedd 2020
[/accordion-item]
[/accordion]