[accordion openfirst=”true” clicktoclose=”true” scroll=”false”]
[accordion-item title=”Trosolwg” id=”Overview” state=”open”]
Pwrpas cyffredinol rheoleiddio gweithwyr proffesiynol yw diogelu cleifion a’r cyhoedd, drwy sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig wedi profi bod ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i ymarfer yn ddiogel, a’u bod yn atebol am eu hymarfer. Mae’r rhaglen hon yn darparu’r sgiliau, y wybodaeth a’r achrediad ffurfiol i wella ymarfer proffesiynol annibynnol i dechnegwyr fferylliaeth cofrestredig ar draws yr holl sectorau.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Manteision” id=”Benefits” state=”closed”]
Yn berthnasol i’r holl sectorau ymarfer fferylliaeth
- Ehangu’r ddealltwriaeth o reoleiddio gweithwyr proffesiynol
- Gwella’r defnydd o dechnegau hunanasesu ac asesu cymheiriaid
- – Datblygu sgiliau arfarnu beirniadol a myfyriol
- Introduction to emotional intelligence and unconscious bias
- Rhaglen achrededig Lefel 4 Agored Cymru
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Cymhwysedd” id=”eligibility” state=”closed”]
- Technegwyr fferylliaeth cofrestredig
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr gael cymeradwyaeth eu rheolwyr llinell (a fydd yn awdurdodi’r amser hyfforddi fydd ei angen er mwyn cwblhau’r rhaglen)
- Ymrwymiad i fynychu’r dyddiadau’r ddwy raglen
- Ymrwymiad i gwblhau’r portffolio tystiolaeth.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Paratoi ar gyfer y Cwrs” id=”precourse” state=”closed”]
: Cyn mynychu’r gweithdy rhyngweithiol byw, bydd disgwyl i’r ymgeiswyr:
- Gwblhau’r pecyn e-Ddysgu ar-lein yn llwyddiannus
- Cwblhau darllen dan gyfarwyddyd
- Llenwi holiadur deallusrwydd emosiynol ar-lein.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Strwythur y cwrs” id=”coursestructure” state=”closed”]
Gweithdai rhyngweithiol byw gyda siaradwyr gwadd
Mae’n orfodol mynychu’r ddau weithdy.
Gweithgareddau Ymarfer
Cwblhau’r portffolio ar sail asesiad a gyflwynwyd i’w asesu, gan gynnwys asesiad cyfoedion i’w gynnal yn y gweithle.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Ceisio ar gyfer y cwrs” id=”apply” state=”closed”]
Byddwch cystal â chwblhau’r ffurflen gais isod er mwyn ceisio am le ar y cwrs Ymarfer Fferylliaeth Broffesiynol Annibynnol. Dyddiadau’r cwrs yw:
- Ionawr 23ain 2020
- Ebrill 21ain 2020
Os yw’r ffurflen gais ar gau neu ddim ar gael, gallwch gofrestru eich diddordeb yn y cwrs (au) yn y dyfodol drwy glicio yma.
[/accordion-item]
[/accordion]