[accordion openfirst=”true” clicktoclose=”true” scroll=”false”]
[accordion-item title=”Trosolwg” id=”Overview” state=”open”]
Achredir WCPPE gan City and Guilds i gyflwyno Tystysgrif NVQ Lefel 2 mewn Sgiliau Gwasanaeth Fferylliaeth (FfCCh) a Diploma NVQ Lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaeth Fferylliaeth (FfCCh). Rydym yn gweithio gydag ymgeiswyr yn y sector a reolir ac mewn fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru.
Mae gan y tîm asesu sy’n rheoli’r cyrsiau NVQs gefndiroedd amrywiol a phrofiad ymarferol helaeth mewn fferyllfeydd. . Mae llawer o’r staff yn ymarferwyr sy’n gweithio mewn amrywiaeth o sectorau.
Rydym yn cynnig ystod o fodelau i ddarparu’r hyfforddiant a gallwn weithio gyda sefydliadau i ddod o hyd i’r model mwyaf addas, yn seiliedig ar y capasiti a’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi ymgeisydd.
Mae WCPPE yn cefnogi ymgeiswyr drwy gyfrwng ymweliadau rheolaidd â’u gweithleoedd, sesiynau hyfforddi wedi’u hwyluso, y defnydd o fforwm ar-lein a chyfeirio myfyrwyr at adnoddau, gwybodaeth a newyddion priodol.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Manteision” id=”Benefits” state=”closed”]
- Rhaglen achrededig a gyflwynir gan ymarferwyr fferylliaeth medrus a phrofiadol
- Sesiynau hyfforddi wedi’u hwyluso er mwyn cynyddu datblygiad proffesiynol
- Mynediad i gymorth rheolaidd drwy rwydwaith o Aseswyr
- Mynediad llawn i adnoddau dysgu ychwanegol drwy ein platfform eDdysgu
- Un pwynt cyswllt ar gyfer pob ymholiad
Mae WCPPE yn Ddarparwr Hyfforddiant dan gontract sy’n cyflwyno Prentisiaethau ledled Cymru. Mae’n bosibl y bydd cyllid Prentisiaeth Fodern ar gael, yn amodol ar y meini prawf cyllido.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Am fwy o wybodaeth:” id=”moreinformation” state=”closed”]
cysylltwch â Wendy PennyWendy.Penny@wales.nhs.uk
[/accordion-item]
[/accordion]