[accordion openfirst=”true” clicktoclose=”true” scroll=”false”]
[accordion-item title=”Trosolwg” id=”Overview” state=”open”]
Mae natur rolau technegwyr fferylliaeth yn dod yn fwy amrywiol, gyda lefelau cynyddol o gysylltu â’r cyhoedd yn gofyn am sgiliau ymgynghori effeithlon.
Cynlluniwyd y rhaglen Lefel 4 hon i ddarparu achrediad ffurfiol mewn sgiliau ymgynghori i wella hyder a chymhwysedd clinigol, ac i alluogi mabwysiadu ymarfer i arwain at well canlyniadau i gleifion.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Manteision” id=”Benefits” state=”closed”]
Adnabod gwerth cytuno ar agenda ar y cyd gyda chleifion
- Cynnal ymgynghoriadau ymarfer fferylliaeth effeithiol
- Myfyrio ar yr elfennau sy’n creu ymgynghoriadau ymarfer fferylliaeth o ansawdd uchel
- Rheoli sefyllfaoedd heriol yn effeithlon
- Rhaglen achrededig Lefel 4 Agored Cymru
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Cymhwysedd” id=”eligibility” state=”closed”]
Technegwyr fferylliaeth cofrestredig sy’n gweithio’n agos â chleifion, neu’r rhai y bydd eu rôl yn datblygu i’r cyfeiriad hwn
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr gael cymeradwyaeth eu rheolwyr llinell (a fydd yn awdurdodi’r amser hyfforddi fydd ei angen er mwyn cwblhau’r rhaglen)
- Ymrwymiad i fynychu’r dyddiadau’r ddwy raglen
- Ymrwymiad i gwblhau’r portffolio tystiolaeth.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Strwythur y cwrs” id=”coursestructure” state=”closed”]
Gweithdai rhyngweithiol byw
Dosbarthiadau tiwtorial wyneb yn wyneb, trafodaethau proffesiynol a chwestiynau ysgrifenedig. (Mae’n orfodol mynychu’r ddau weithdy)
Gweithgareddau ymarfer
- Casglu tystiolaeth o ymgynghoriadau
- Arsylwi clinigol strwythuredig gwrthrychol (OSCE)
- Cwblhau portffolio ar sail tystiolaeth
- Myfyrdodau wedi’u dogfennu.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Ceisio ar gyfer y cwrs” id=”apply” state=”closed”]
Byddwch cystal â chwblhau’r ffurflen gais er mwyn ymgeisio am le ar y cwrs Cyflwyniad i Sgiliau ymgynghori i Dechnegwyr Fferylliaeth. Dyddiadau’r cwrs yw:
- 4ydd Tachwedd 2019
- 9fed Mawrth 2020
Os yw’r ffurflen gais wedi cau, neu heb fod ar gael, gallwch gofrestru diddordeb pellach trwy glicio isod.
[/accordion-item]
[/accordion]