[accordion openfirst=”true” clicktoclose=”true” scroll=”false”]
[accordion-item title=”Trosolwg” id=”Overview” state=”open”]
Nod y rhaglen chwech mis yw rhoi cyflwyniad i arweinyddiaeth gofal iechyd a chryfhau sgiliau rheoli aelodau o’r proffesiwn fferylliaeth sydd yng nghyfnodau cynnar datblygiad eu gyrfa, neu sy’n dechrau eu taith arweinyddiaeth. Bydd y cyfranogwyr yn archwilio cryfderau ac ysgogiadau personol, ynghyd â’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu ac arwain timau o fewn sefydliadau.
Bydd y cyfranogwyr yn archwilio cryfderau ac ysgogiadau personol, ynghyd â’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu ac arwain timau o fewn sefydliadau.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Manteision” id=”Benefits” state=”closed”]
- Datblygu priodweddau personol, er enghraifft hunanymwybyddiaeth, hyder a sgiliau myfyriol
- Datblygu sgiliau rhyngbersonol a rheoli, gan gynnwys rheoli amser a dirprwyo, ysgogi a dylanwadu, rheoli prosiectau, pendantrwydd a deallusrwydd emosiynol, rheoli gwrthdaro a rheoli perfformiad.
- Dysgu a rhwydweithio ymhlith cydweithwyr gofal iechyd fferylliaeth o’r un anian ar draws yr holl sectorau
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Cymhwysedd” id=”eligibility” state=”closed”]
- Ardystiad gan uwch aelod o’u sefydliad (oni bai eu bod yn cwblhau’r cwrs yn eu hamser eu hunain)
- Ymrwymiad i fynychu pob un o bedwar dyddiad y rhaglen
- Cwblhau’r ffurflen gais ar-lein
- Caiff lleoedd eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Paratoi ar gyfer y Cwrs” id=”precourse” state=”closed”]
Cyn mynychu’r gweithdai rhyngweithiol byw, mae’n rhaid i’r dirprwyon gwblhau gweithgareddau cyn y cwrs ar gyfer Diwrnod 1 (a’r pedwar diwrnod dilynol, cyn pob diwrnod) a fydd yn hygyrch ar ôl cofrestru. Bydd y gwaith hwn yn rhan o’r portffolio myfyriol.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Strwythur y Cwrs” id=”coursestructure” state=”closed”]
Gwaith Cyn y Cwrs
Cwblhau’r tasgau cyn y cwrs a chyn y gweithdai byw.
Gweithdai rhyngweithiol byw
Mynychu pob un o’r pum gweithdy rhyngweithiol byw 1-diwrnod. Bydd pob gweithdy’n cynnwys gweithgareddau a chyflwyniadau gan weithwyr iechyd proffesiynol profiadol sy’n gysylltiedig ag addysg a datblygiad.
Gweithgareddau ymarfer
Cwblhau’r tasgau ar ôl y cwrs a’r portffolio tystiolaeth.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Asesiad” id=”assessment” state=”closed”]
Adolygu’r portffolio myfyriol gorffenedig.
[/accordion-item]
[accordion-item title=”Gwnewch gais am Cyflwyniad i Arweinyddiaeth Gofal Iechyd” id=”applynorth” state=”closed”]
Llenwch y ffurflen gais isod i wneud cais am le ar y rhaglen Cyflwyniad i Arweinyddiaeth Gofal Iechyd. Dyddiadau’r cwrs yw:
Diwrnod 1 : 12/02/20
Diwrnod 2: 02/04/20
Diwrnod 3: 20/05/20
Diwrnod 4: 10/06/20
Diwrnod 5: 01/07/20
Application closes 10th January 2020
Os yw’r ffurflen gais ar gau neu ar gael, gallwch gofrestru eich diddordeb yn y cwrs (au) yn y dyfodol drwy glicio yma.
[/accordion-item]
[/accordion]