Acute Respiratory Infection (webinar recording)

£0.00 inc. VAT

You must be logged in to register for this event.
Click here to login

When

31st October 2023 00:00
Category:

Description

Haint anadlol acíwt (recordiad gweminar) / Acute Respiratory Infection (webinar recording)
(scroll down for English)

Trosolwg

Ers y pandemig, mae lefelau haint anadlol acíwt wedi cynyddu. Yn ogystal, roedd y nifer o achosion Streptococws Grŵp A (GAS) yn 22/23 wedi arwain at gynnydd enfawr yn y defnydd o wrthfiotigau.

Wrth i ni ddechrau cyfnod prysur arall y gaeaf, bydd gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n gweithio mewn lleoliadau sylfaenol a chymunedol yn bendant yn dod ar draws llawer o gleifion â symptomau heintiau anadlol acíwt, lle mae peswch a dolur gwddf ymhlith y symptomau mwyaf cyffredin.

Er bod rhai sefyllfaoedd yn gofyn am wrthfiotigau a/neu atgyfeiriadau a thriniaethau mwy brys, mae’r rhan fwyaf o beswch a dolur gwddf yn cael eu hachosi gan firysau.   Dylid defnyddio gwrthfiotigau ond i drin heintiau a achosir gan facteria, nid firysau.

Felly, sut y gall gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sicrhau asesiad a rheolaeth ddiogel a phriodol o gleifion sydd â symptomau sy’n gysylltiedig â heintiau anadlol acíwt?

Ymunwch â ni ar gyfer y weminar hon lle rydym yn edrych ar heintiau anadlol acíwt a sut y gallwn ofalu orau am ein cleifion.

Canlyniadau Dysgu:

Ar ôl mynychu’r digwyddiad hwn bydd cyfranogwyr yn gallu: 

  • Gwybod pwysigrwydd defnydd optimaidd o gyffuriau gwrthficrobaidd
  • Disgrifio’r opsiynau cyflwyno, asesu a rheoli ar gyfer heintiau anadlol acíwt
  • Nodi canllawiau cenedlaethol a lleol ar gyfer heintiau anadlol acíwt
  • Cydnabod lle mae ymchwiliadau pellach ac atgyfeirio yn angenrheidiol

Wedi’i anelu at: 

Gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n gweithio o fewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol

Siaradwyr: 

Dr Sarah Medlicott, meddyg teulu

Wan Yee Lee, Fferyllydd Gwrthficrobaidd CAVUHB

Alexandra Leyshon, Fferyllydd Gwrthficrobaidd CAVUHB

Overview

Since the pandemic, the levels of acute respiratory infection have increased. In addition, Group A Streptococcus (GAS) outbreaks in 22/23 resulted in a huge increase in antibiotic use.

As we enter another busy winter period, healthcare professionals working in primary and community settings will undoubtedly encounter many patients presenting with symptoms of acute respiratory infections, with coughs and sore throat being the most common.

Although some situations require antibiotics and/or more urgent referral and treatment, most coughs and sore throats are caused by viruses. Antibiotics should only be used to treat infections caused by bacteria, not viruses.

Therefore, how can healthcare professionals ensure safe and appropriate assessment and management of patients presenting with symptoms associated with acute respiratory infections?

Join us for this webinar where we look at acute respiratory infections and how we can best look after our patients.

Learning outcomes:

After attending this event participants will be able to: 

  • Know the importance of optimal use of antimicrobials
  • Describe the presentation, assessment and management options for acute respiratory infections
  • Identify national and local guidelines for acute respiratory infections
  • Recognise where further investigations and referral is necessary

Designed for: 

Healthcare professionals working in primary and community care settings

Speakers:

Dr Sarah Medlicott, GP

Wan Yee Lee, Antimicrobial Pharmacist CAVUHB

Alexandra Leyshon, Antimicrobial Pharmacist CAVUHB