Antibiotic Awareness: IV to Oral Switching

£0.00 inc. VAT

You must be logged in to register for this event.
Click here to login

When

09th November 2022 14:55

Location

,
Online,

Category:

Description

Ymwybyddiaeth o Wrthfiotigau: Newid o Lwybr Mewnwythiennol (IV) i un Geneuol / Antibiotic Awareness: IV to Oral Switching
(please scroll down for English)
 
Trosolwg: 
 
Gyda'r cynnydd yn y defnydd o wrthfiotigau daw heriau yn ymwneud ag ymwrthedd gwrthficrobaidd a heintiau a achosir gan wrthfiotigau. Yn fwy nag erioed, mae stiwardiaeth gwrthficrobaidd yn hanfodol wrth gynorthwyo’r defnydd priodol o wrthfiotigau yn ein system gofal iechyd heddiw. Un agwedd o hyn yw sicrhau bod y llwybr gweinyddu cywir yn cael ei ddewis. Mae’n briodol i lawer o gleifion sydd ag angen am  wrthfiotigau mewnwythiennol tymor byr (IV) i newid i lwybr geneuol wedi hynny. Yn ymarferol fodd bynnag, mae newid gwrthfiotigau o lwybr IV i un geneuol yn dod â'i heriau a'i rwystrau ei hun.

Yn ystod yr hydref, bydd ymgyrch yn cael ei chynnal ledled Cymru i dynnu sylw at y mater hwn ochr yn ochr â’r Diwrnod o Ymwybyddiaeth Gwrthfiotig Ewropeaidd a’r Wythnos o Ymwybyddiaeth Gwrthfiotig y Byd. Ymunwch â ni yn y gweminar hwn lle bydd Fferyllwyr Gwrthficrobaidd arbenigol yn rhoi cefndir y sefyllfa i chi ac yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ac ymarferol y gallwch ei defnyddio yn eich ymarfer o ddydd i ddydd.
 
Deilliannau Dysgu:
 
Ar ôl mynychu'r digwyddiad hwn bydd cyfranogwyr yn gallu: 
 

  • Disgrifio sut mae’r llwybr gweinyddu yn chwarae rôl mewn stiwardiaeth gwrthficrobaidd
  • Nodi sefyllfaoedd lle mae newid o lwybr gwrthfiotig IV i un geneuol yn briodol
  • Adnabod y rhwystrau sy'n bodoli wrth newid o lwybr IV i un geneuol
  • Crynhoi'r prif ffactorau i'w hystyried pan fydd gwrthfiotigau'n cael eu newid o lwybr IV i un geneuol
  • Cydnabod sut mae hyn yn ymwneud â'ch ymarfer / rôl

Cynlluniwyd ar gyfer: 

Gweithwyr fferylliaeth broffesiynol sy'n gweithio ym maes gofal eilaidd, ond mae croeso i gydweithwyr o bob sector fod yn bresennol. Mae'r digwyddiad hwn hefyd yn agored i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.

Siaradwyr: 

Bethan Thomas, Fferyllydd Gwrthficrobaidd, BIPAB
Ruth Mcaleer, Fferyllydd Gwrthficrobaidd, BIPCAF

 

Overview: 
 
With the increase in use of antibiotics comes challenges around antimicrobial resistance and antibiotic induced infections. More than ever, antimicrobial stewardship is vital in supporting the appropriate use of antibiotics in our healthcare system today. One aspect of this is ensuring that the correct route for administration is chosen. Many patients require short term intravenous (IV) antibiotics where a switch to the oral route would subsequently be appropriate. In practice however, switching antibiotics from IV to oral brings its own challenges and barriers. 

During the Autumn, a campaign will be running across Wales to highlight this issue alongside European Antibiotic Awareness Day and World Antibiotic Awareness Week. Join us on this webinar where specialist Antimicrobial Pharmacists will give you the background to the situation and provide useful and practical information that you can utilise in your day-to-day practice.
 
Learning outcomes:
 
After attending this event participants will be able to: 
 

  • Describe how the route of administration plays a role in antimicrobial stewardship
  • Identify situations where IV to oral antibiotic switching is appropriate
  • Recognise the barriers that exist in switching from IV to oral antibiotics
  • Summarise the key factors to consider when antibiotics are switched from IV to oral
  • Recognise how this relates to your practice / role

Designed for: 

Pharmacy professionals working in secondary care, however colleagues from across sectors are welcome to attend. This event is also open to other healthcare professionals. 

Speakers:

Bethan Thomas, Antimicrobial Pharmacist, SBUHB
Ruth Mcaleer, Antimicrobial Pharmacist, CAVUHB